Tuesday, 16 September, 2025г.
russian english deutsch french spanish portuguese czech greek georgian chinese japanese korean indonesian turkish thai uzbek

пример: покупка автомобиля в Запорожье

 

Hyfforddi...Gweithio...Byw: Meddygon Gogledd Cymru

Hyfforddi...Gweithio...Byw: Meddygon Gogledd CymruУ вашего броузера проблема в совместимости с HTML5
Mae’r fideo byr, ‘Hyfforddi, Gweithio, Byw: Meddygon Gogledd Cymru’, gan feddyg teulu o Hen Golwyn, Dylan Parry, wedi ei anelu at roi darlun sydyn o’i brofiad ‘hyfforddi, gweithio, byw’ yntau yng Ngogledd Cymru . Am fwy o bortread Dylan o'i fywyd fel meddyg teulu yn GIG Cymru, gallwch ymweld a'i flog Twitter: https://twitter.com/drdylanparry?lang... (yn enwedig y hashnodau #Abergele ( lluniau o'r ardal ), #medicsnorthwales, #PrudentPrescribing ( trydar am elfen presgriptiynau darbosus Gofal Iechyd Darbodus ) a #TrainWorkLive , ei dudalen Facebook: https://www.facebook.com/DrDylanParry a'i sianel YouTube: https://www.youtube.com/channel/UC9oG... Mae'n bartner Meddyg Teulu ym Meddygfa Cadwgan, yn Oruchwyliwr Addysgiadol a Hyfforddwr Deondy Cymru ar Gynllun Galwedigaethol Dyffryn Clwyd, yn Gymrawd o'r RCGP ers 2013, wedi cymeryd rhan mewn a rhoi cefnogaeth feddygol i'r fenter elusennol Cerddwn Ymlaen - https://www.facebook.com/cerddwnymlaen.walkon ac yn ffan mawr o feicio a chlwb peldroed Lerpwl. Gweler ei broffil 'LinkedIn' yma: https://uk.linkedin.com/in/dylan-parry-087a51a2 . Mae'n gobeithio y gwneith y fideo yma helpu i ddenu plant ysgol a myfyrwyr meddygol sydd efo diddordeb yn y maes meddygon teulu, a'r rheini mewn hyfforddiant i fod yn feddygon teulu i ymgeisio a, swyddi yng Nghymru wedi iddynt basio'r cymhwyster MRCGP; nad oes unrhyw beth i'w ofni wrth wneud y fath ddewis o yrfa, a bod meddygaeth teulu yn ffynnu. I'r rheini sydd ddim yn gyfarwydd a gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru ers datganoli yn 1999, a mae efo dyfodol cyffrous heb anghytundeb contract meddygon iau. BCUHB, sef Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd yn gyfrifol am arlwyo gofal iechyd yng Ngogledd Cymru. Dylai'r rheini sydd efo diddordeb mewn unrhyw fath o yrfa meddygol yng Ngogledd Cymru gysylltu a BCUHB neu 'Medics North Wales': http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/1002/page/57444 @MedicsNWales (Trydar). Mae sianel YouTube 'Medics NWales' yma: https://www.youtube.com/channel/UCjvHF5kJcONSF-YJfu-nc1g . Cliciwch ar y linc isod i ymweld a gwefan 'Gwlad, Gwlad' GIG Cymru & Deoniaeth Cymru i ddarganfod mwy am yrfa meddygol yng Nghymru: http://www.trainworklive.wales/?lang=cy
Мой аккаунт